Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2
Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12491
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Am 13.35, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am 2 funud gan y Llywydd oherwydd anawsterau technegol.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.19
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 14.41
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-Net
Dechreuoodd yr eitem am 15.33.
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi wyrddach
Dechreuodd yr eitem am 16.26.
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif
Dechreuodd yr eitem am 17.10.
7 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 17.45.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 18.12
NNDM7816 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7817 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd
Dechreuodd yr eitem am 18.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NNDM7817 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Amgylchedd sy'n ymwneud â deunydd untro, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Hydref 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.30 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.34.
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.35
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2021